cgw. Exodus 17:6; Numeri 20:11
dNumeri 14:16 (LXX)
fgw. Numeri 25:1-18
ggw. Numeri 21:5,6
hgw. Numeri 16:41-49
jgw. Deuteronomium 32:17 (LXX)

1 Corinthians 10

Rhybuddion o hanes Israel

1Dw i am i chi gofio, frodyr a chwiorydd, fod ein hynafiaid ni i gyd wedi bod dan y cwmwl, ac roedd pob un ohonyn nhw wedi mynd drwy'r môr. a 2Cafodd pob un ohonyn nhw eu ‛bedyddio‛ fel dilynwyr Moses yn y cwmwl a'r môr. 3Cafodd pob un ohonyn nhw fwyta yr un bwyd ysbrydol b 4ac yfed yr un dŵr ysbrydol. Roedden nhw'n yfed o'r graig ysbrydol oedd yn teithio gyda nhw – a'r Meseia oedd y graig honno. c 5Ond er gwaetha hyn i gyd, wnaeth y rhan fwya ohonyn nhw ddim plesio Duw – “buon nhw farw yn yr anialwch.” d

6Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i'n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw. 7Maen nhw'n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.” e 8Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod! f 9Maen nhw'n rhybudd i ni beidio rhoi'r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd. g 10Ac maen nhw'n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw. h

11Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd. 12Felly, os dych chi'n un o'r rhai sy'n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio! 13Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.

Partïon eilunod a Swper yr Arglwydd

14Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau. 15Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am beth dw i'n ei ddweud: 16Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia? i 17Un dorth sydd, felly dŷn ni sy'n grŵp o unigolion, yn dod yn un corff wrth rannu o'r dorth. 18Meddyliwch am bobl Israel: Onid ydy'r rhai sy'n bwyta o'r aberthau yn cyfrannu o arwyddocâd yr aberth ar yr allor? 19Felly beth dw i'n geisio ei ddweud? – fod bwyta beth sydd wedi ei offrymu i eilun-dduwiau yn golygu rhywbeth, neu fod yr eilun ei hun yn rhywbeth? 20Na, dweud ydw i mai cael eu hoffrymu i gythreuliaid mae'r aberthau yn y pen draw, nid i Dduw; a dw i ddim am i chi gael dim i'w wneud â chythreuliaid. j 21Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid. 22Ydyn ni wir eisiau “gwneud yr Arglwydd yn eiddigeddus” k Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gryfach nag e?

Rhyddid y crediniwr

23“Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol. 24Ddylen ni ddim ceisio'n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.

25Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau, 26am mai “Duw sydd biau'r ddaear, a phopeth sydd ynddi.” l 27Ac os ydy rhywun sydd ddim yn Gristion yn gwahodd rhai ohonoch chi am bryd o fwyd, a chithau eisiau derbyn y gwahoddiad, gallwch fwyta popeth sy'n cael ei roi o'ch blaen – does dim rhaid gofyn cwestiynau. 28Ond os ydy rhywun yn dweud, “Mae hwn wedi cael ei offrymu yn aberth,” dylech beidio ei fwyta. Gwnewch hynny er mwyn y person a ddwedodd wrthoch chi, a lles y cydwybod – 29cydwybod y person hwnnw dw i'n ei olygu, nid eich cydwybod chi. “Ond pam dylai fy rhyddid i gael ei glymu gan gydwybod rhywun arall?” meddech chi. 30“Os dw i'n diolch i Dduw am y bwyd o mlaen i, pam dylwn i gael enw drwg am ei fwyta?” 31Dyma pam: Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall wir, dylech chi anrhydeddu Duw. 32Ac mae hynny'n golygu osgoi gwneud niwed i bobl eraill – yn Iddewon, yn bobl o genhedloedd eraill, neu'n bobl sy'n perthyn i eglwys Dduw. 33Dyna dw i'n ceisio'i wneud – dw i'n ystyried beth sy'n gwneud lles i bawb arall. Yn lle meddwl beth dw i fy hun eisiau, dw i'n meddwl am bobl eraill. Dw i eisiau iddyn nhw gael eu hachub!

Copyright information for CYM